Cookie Notice: This site uses cookies to provide multi-lingual functionality and analytics. Browsing this website means that you agree for these cookies to be placed on your browser.
 |
|
 |
|  |  |  | Mi brynom yr adeilad yn ystod 2005 a'r bwriad oedd ei weddnewid i'n syniad personol ni o'r hyn y dylai gwesty moethus Cymreig fod, yn croesawu ein hymwelwyr gyda dathliad o ddoniau Cymreig:  |  |  | Yr artist lleol Bethan Clwyd fu'n gyfrifol am baentio ein darluniau olew trawiadol. |  |  | |  |  |  | Cyfansoddodd y Prifardd Tudur Dylan Jones englyn ar gyfer y gwesty, a chyfansoddwyd englyn ar gyfer y bwyty gan y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i'w chadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. |  |  | |  |  |  | Adeiladwyd ein bar a desg y dderbynfa gan Simon Hooper o gwmni Specialist Models yng Nghaerdydd. |  |  | |  |  |  | Lluniwyd ein dodrefn derw gan Selwyn Thomas, y saer o Drefor. |  |  | |  |  |  | Goruchwyliwyd yr holl waith adnewyddu gan y pensaer lleol Harry James a'r prif gontractwyr adeiladu Richard a John Jones o Jones Joinery, Cricieth. Roedd yr holl is-gontractwyr (trydanwyr, plymwyr, paentwyr, teilswyr, plastwyr, seiri coed, cyflenwyr gwydr, gofaint, bricwyr, a.y.b.) yn byw yn lleol neu'n dod o Gymru. |  |  | |
Yng Ngwesty Cymru gobeithiwn ein bod wedi creu amgylchedd o foethusrwydd i'ch maldodi, gan arddangos hefyd y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Gobeithiwn y mwynhewch eich amser gyda ni. |  |  |  |
|  |
|
|
 |
 |
 |
|  | |
| |
|
 |
|
| |
English | Croeso | Cynigion Arbennig | Cynigion Arbennig | Bwcio i Gwesty Cymru | Stafelloedd | Bwyty | Atyniadau & Gweithgareddau | Lleoliad | Amdanon Ni | Hygyrchedd
Gwefan gan WPG Ltd. Gwesty Cymru © 2009. |
|