Mi brynom yr adeilad yn ystod 2005 a'r bwriad oedd ei weddnewid i'n syniad personol ni o'r hyn y dylai gwesty moethus Cymreig fod, yn croesawu ein hymwelwyr gyda dathliad o ddoniau Cymreig:
 |
 |
 |
Yr artist lleol Bethan Clwyd fu'n gyfrifol am baentio ein darluniau olew trawiadol. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Cyfansoddodd y Prifardd Tudur Dylan Jones englyn ar gyfer y gwesty, a chyfansoddwyd englyn ar gyfer y bwyty gan y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i'w chadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Adeiladwyd ein bar a desg y dderbynfa gan Simon Hooper o gwmni Specialist Models yng Nghaerdydd. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Lluniwyd ein dodrefn derw gan Selwyn Thomas, y saer o Drefor. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Goruchwyliwyd yr holl waith adnewyddu gan y pensaer lleol Harry James a'r prif gontractwyr adeiladu Richard a John Jones o Jones Joinery, Cricieth. Roedd yr holl is-gontractwyr (trydanwyr, plymwyr, paentwyr, teilswyr, plastwyr, seiri coed, cyflenwyr gwydr, gofaint, bricwyr, a.y.b.) yn byw yn lleol neu'n dod o Gymru. |
 |
 |
|
Yng Ngwesty Cymru gobeithiwn ein bod wedi creu amgylchedd o foethusrwydd i'ch maldodi, gan arddangos hefyd y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.
Gobeithiwn y mwynhewch eich amser gyda ni. |