Cookie Notice: This site uses cookies to provide multi-lingual functionality and analytics. Browsing this website means that you agree for these cookies to be placed on your browser.
"Smo fi ishe mynd (mae'n rhaid i ti mae'n fore)" Edward H Dafis
Aberystwyth - tref llawn cymeriad a chymeriadau, bryniau a bragdai, traddodiad a thraethau. Yn wynebu'r traeth, yng nghanol y Prom mae Gwesty Cymru, yn barod i roi croeso cynnes i chi.
Mae'r wyth o ystafelloedd yn y gwesty yn ddeniadol, yn ffres ac yn llawn steil. Lle delfrydol i ddadflino ac ymlacio.
Cliciwch yma am y wybodaeth diweddara am gynigion munud olaf, gwyliau rhamantus a chynigion y bwyty.
Mwynhewch y golygfeydd o'n bwyty teras ar lan y môr, a gadewch i ni eich denu gydag amrywiaeth o brydau bwyd Cymreig eu naws a fydd yn ddigon i dynnu dwr o'ch dannedd. Galwch heibio i'n bar seler clyd. Mae digonedd o ddiodydd Cymreig ar gael yno. Dyma le i ymlacio'n llwyr a llesmeirio yn swn y môr.